10/16/2026
✨Ein Hanes Ni: Bethesda ✨
Roedd yn bleser gweithio efo YsgolPenybryn Ac Abercaseg a Menter Môn i greu ffilm fer sy'n dilyn grŵp o ddisgyblion wrth iddynt ddysgu mwy am hanes cyfoethog Bethesda, gan archwilio treftadaeth chwarela llechi'r ardal a stori ddiddorol Ysbyty Chwarel Penrhyn.
Yn dilyn premier gwych yn Neuadd Ogwen, Bethesda diwedd mis Medi - a oedd hefyd yn cynnwys sesiynau addysgiadol gan Llechi Cymru - Wales Slate a Cadw ynglŷn â'r gwaith cadwraeth yn yr Hen Ysbyty Chwarel - mae'r ffilm bellach ar gael ar YouTube.
Mae disgyblion Ysgol Pen-y-bryn hefyd wedi creu murlun bywiog a lliwgar sy'n cynnwys llawer o safleoedd treftadaeth Dyffryn Ogwen, ac mae hwnnw bellach yn hongian y tu allan i'r ysgol.
Mae Ein Hanes Ni yn un o brosiectau cymunedol Menter Môn sy'n dod â'r genhedlaeth iau a'r to hŷn ynghyd drwy sgwrsio am eu hanes lleol.
Mwynhewch!
It was a pleasure to work with Ysgol Pen-y-bryn and Menter Mon to create a short film following a group of pupils as they learn more about Bethesda’s rich history, exploring the area's slate quarrying heritage and the fascinating story of the Penrhyn Quarry Hospital.
Following a great premier in Neuadd Ogwen, which also featured informative sessions from Llechi Cymru and Cadw about the preservation work at Hen Ysbyty Chwarel, the film is now available on YouTube.
Ysgol Pen-y-bryn pupils have also created a lively, colourful mural featuring many of the heritage landmarks around Dyffryn Ogwen, which is now hanging outside the school.
Ein Hanes Ni is one of Menter Môn's community projects that brings the younger and older generations together through conversations about their local history.
Ariannwyd gan / Funded by The National Lottery Community Fund/ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Prosiect sydd yn dod a'r genhedlaeth iau a'r to hŷn at ei gilydd dr...