Llety Glyndwr - Bunkhouse

Llety Glyndwr - Bunkhouse Bunkhouse / Group accomodation in the heart of Snowdonia National Park. Booking site - https://www.booking.com/Share-WgbJoOe

27/08/2026

Hoffai'r pwyllgor ddiolch yn fawr i Llety Glyndwr - Bunkhouse am eu nawdd caredig i'r Sioe a'r Cneifio Cyflym
The committee would like to thank Llety Glyndwr - Bunkhouse for their kind sponsorship for the Show and the Speed Shear.

25/07/2026

***Tîm Achub a Chwilio De Eryriyn yn erfyn am yr ail waith i bobol gadw'n glîr o ardaloedd ar dân.*** 🚒 👮

Mae Tìm De Eryri wedi gwasanaethu y cymunedau ac ymwelwyr i'r ardal ers dros 30 mlynedd. Trwy gydol yr amser, rydym wedi ymateb i ddigwyddiadau yn ymwneud a chleifion a phobol ar goll, yn trîn pawb gyda'r gofal, parch a'r proffeshynoldeb haeddiannol.

Yr wythnos yma, fe'n galwyd i ddigwyddiad yn ymwneud a dau unigolyn a aeth mewn i ardal a effeithiwyd gan dân allan o reolaeth. Er gwaetha'r gwaharddiadau ffyrdd a chyngor yr heddlu i gadw draw aethant i mewn i'r ardal. Canlyniad hyn oedd iddynt fynd i drybini ar y mynydd a gorfod galw am gymorth.

R'oedd amgylchiadau'r digwyddiad yma yn siomedig eithriadol gan mai i gael lluniau drôn o'r tannau yr aeth y ddau yma i fyny. O ganlyniad i'r alwad, fe anfonwyd gwirfoddolwyr Dîm De Eryri ynghyd a hofrennydd Achub a Chwilio ar orchwyl cwbwl ddi-angen.

Rydym wedi gweld cynnydd mewn aelodau o'r cyhoedd yn ceisio ymweld a'r ardal ynghyd a gwersylla gwyllt er gwaetha'r ymbil gan yr asiantaethau i gadw draw.

Mae pob galwad yn golygu ystyriaeth ddwys o'r peryglon i'n gwirfoddolwyr a'n cyd asiantaethau. Mae galwad o'r math yma yn golygu rhwymo pobol ac adnoddau fyddai, fel arall ar gael i gynorthwyo'r gwir anghenus ac yn peryglu aelodau'r tîm, sydd i gyd yn wirfoddolwyr, yn ddi angen.

Bu côst y digwyddiad yma yn sylweddol i'r pwrs cyhoeddus trwy ddefnyddio asedau arbenigol fel yr hofrennydd. Roedd yna hefyd ofynion ar ein cyfarpar a'n hadnoddau ni fel tîm - y cwbwl wedi eu ariannu trwy ffynhonellau gwirfoddol a chefnogaeth y cyhoedd.

Cyhoeddwyd y datganiad canlynol gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru.

Dywedodd Jami Jennings, Rheolwr Cyflenwi Gwasanaethau a Chadeirydd y Grŵp Cydlynu Tactegol:

“Mae ein criwiau'n parhau i wneud cynnydd cyson ar draws pob digwyddiad o danau gwyllt, ond mae'r amodau'n parhau i fod yn heriol, yn enwedig ym mynyddoedd Y Rhinogydd lle mae diffoddwyr tân yn gweithio'n galed i atal y tân ac atal lledaeniad pellach. Rydym yn parhau i fonitro nifer o leoliadau eraill fel rhagofal, ac mae ein hymateb yn parhau i ganolbwyntio ar ddiogelu pobl, eiddo a'r amgylchedd.

"Hoffwn ddiolch i fusnesau lleol ac aelodau o'r gymuned am eu caredigrwydd a'u haelioni wrth gynnig cymorth lles gwirfoddol i bersonél gweithredol ac asiantaethau partner yn ystod y tanau gwyllt hyn. Rydym yn hynod ddiolchgar am eich cefnogaeth; fodd bynnag, hoffwn eich sicrhau bod gan ein criwiau y cyflenwadau sydd eu hangen arnynt i barhau i ymateb yn ddiogel ac yn effeithiol, a byddem yn gofyn i bobl beidio â theithio i leoliadau digwyddiadau neu orsafoedd tân i ollwng eitemau gan y bydd hyn yn sicrhau bod llwybrau mynediad ac allanfa yn parhau i fod yn glir.

"Rydym hefyd wedi gweld achosion lle mae pobl wedi teithio i leoliadau tanau gwyllt ac wedi hynny angen cymorth brys. Mae digwyddiadau fel y rhain yn dargyfeirio adnoddau gwerthfawr i ffwrdd o weithrediadau diffodd tân a diogelu cymunedau lleol ar adeg pan fydd angen pob adnodd sydd ar gael.

"Y ffordd orau y gall y cyhoedd gefnogi ymatebwyr brys yw trw

Rydym fel tîm yn llwyr gefnogi'r neges yma. Gofynwn i bawb barchu'r arwyddion ffyrdd sydd ar gau, cydymffurfio a chyngor yr asiantaethau a cadw'n glir o ardaloedd gwaharddiedig. Trwy wneud hyn rydym yn diogelu'r cyhoedd a'n gweithwyr argyfwng sydd yma i gadw'n cymunedau yn saff.

y gadw draw o'r ardaloedd yr effeithir arnynt, dilyn diweddariadau swyddogol a pharchu'r holl gau ffyrdd a mesurau diogelwch sydd wedi'u rhoi ar waith.

"Diolch am eich amynedd, eich caredigrwydd a'ch cefnogaeth barhaus wrth i ni weithio i gadw ein cymunedau'n ddiogel."

19/04/2026

☀️🏃🏃🏼‍♀️

Address

Llys Ednowain
Blaenau-Ffestiniog
LL414UB

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Llety Glyndwr - Bunkhouse posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Business

Send a message to Llety Glyndwr - Bunkhouse:

Shortcuts

Share

Category