23/10/2026
Marathon Eryri 2026 - RACE CANCELLED - Official Race Statement
It’s been a long and difficult week for us all here at Marathon Eryri and we’d like to thank you all for your patience whilst we have been trying our best to get the race on for our amazing runners.
Following today’s course assessment, our Course Management team deemed the course unsafe, with wind gusts, tree debris and flooding across the course. We’ve been taking advice from all the sources we can, and consulting with safety experts.
Though conditions have eased this evening, unfortunately the forecast for tomorrow has worsened considerably and we have had to make the regrettable decision to cancel this year’s Marathon Eryri.
To say that we are heartbroken would be an understatement, but we have to think of the safety of everyone involved, not just our runners but our incredible marshals, some of whom are out there for over 8 hours.
It’s our intention to defer all runners’ places to next year and we will be emailing out further details as soon as we can.
Thanks to everyone for the support they have given us, especially over the last 24 hours.
This race has over 40 years of history, and one of the most loyal and cherished communities in the world of running, long may that continue.
Love from us all at Tîm Eryri
/
Marathon Eryri 2026 - RAS WEDI EI GANSLO - Datganiad Swyddogol y Ras
Mae hi wedi bod yn wythnos hir ac anodd i ni i gyd yma ym Marathon Eryri, ac hoffem ddiolch i chi gyd am eich amynedd wrth i ni wneud ein gorau glas i sicrhau bod y ras yn gallu cael ei chynnal ar gyfer ein rhedwyr anhygoel.
Yn dilyn asesiad o’r cwrs heddiw, daeth ein Tîm Rheoli’r Cwrs i’r casgliad nad oedd y cwrs yn ddiogel, oherwydd hyrddiau o wynt cryf, coed ar hyd y lonydd a llifogydd ar hyd y llwybrau. Rydym wedi bod yn cael cyngor o bob ffynhonnell bosibl ac wedi ymgynghori ag arbenigwyr diogelwch.
Er bod yr amodau wedi gwella ychydig heno, yn anffodus mae rhagolygon y tywydd ar gyfer yfory wedi gwaethygu’n sylweddol, ac felly rydym wedi gorfod gwneud y penderfyniad anodd a gofidus i ganslo Marathon Eryri eleni.
Byddai dweud ein bod yn dorcalonnus yn peri gofid i ni fel Tîm, fodd bynnag, mae’n rhaid i ni roi diogelwch pawb dan sylw yn gyntaf — nid ein rhedwyr yn unig, ond hefyd ein marsialiaid anhygoel, y mae rhai ohonynt allan ar y cwrs am dros wyth awr.
Ein bwriad yw trosglwyddo lle pob rhedwr i ras y flwyddyn nesaf, a byddwn yn anfon e-bost atoch gyda rhagor o fanylion cyn gynted ag y gallwn.
Diolch i bawb am y gefnogaeth a’r ddealltwriaeth a ddangoswyd, yn enwedig dros y 24 awr ddiwethaf.
Mae gan y ras hon dros 40 mlynedd o hanes, ac mae ganddi un o’r cymunedau mwyaf ffyddlon a gwerthfawr ym myd rhedeg.
Boed i hynny barhau am flynyddoedd lawer i ddod.
Gyda chariad gan bob un ohonom yn Nhîm Eryri.