08/05/2026
Barod am y tresi aur – y newyddion diweddaraf | Laburnum watch latest
****
Wedi cymysgedd o haul a glaw dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mae’r bwa tresi aur yn parhau i ddatblygu’n dda. Mae’n lliw gwyrdd leim ffres, hardd erbyn hyn, ac mae’r sypiau (neu glystyrau blodau) wedi ymddangos, gyda’r blagur melyn cynharaf yn dechrau dod i’r amlwg – yn arwydd addawol o’r hyn sydd i ddod!
Y newyddion gorau? Mae’n debygol bydd y bwa wedi blodeuo’n llawn o ddiwedd wythnos nesaf, ond wrth gwrs, byddwn yn parhau i rannu’r newyddion diweddaraf am tan hynny.
Er mwyn i fwy o bobl allu gweld yr olygfa ysblennydd hon cyn iddi wibio heibio, byddwn yn agor ychydig yn gynharach ac yn cau’n hwyrach o ddydd Sadwrn 16 Mai tan ddydd Sul 7 Mehefin.
Os ydych yn bwriadu ymweld yn ystod y cyfnod hwn, rydym yn argymell yn gryf eich bod yn archebu ymlaen llaw. Mae tocynnau nawr ar gael drwy ein gwefan.
Dewch o hyd i ragor o wybodaeth ac archebu eich tocynnau yma: https://www.nationaltrust.org.uk/cy/visit/wales/bodnant-garden/y-bwa-tresi-aur-yng-ngardd-bodnant
****
After a mix of sunshine and rain over the past few days, the laburnum arch is continuing to progress well. It’s now a beautiful, fresh lime green tone, the racemes (or flower clusters) have dropped, and the earliest yellow buds are beginning to emerge – a promising sign of what is to come!
The best news? We’re still on track for the arch to be in full bloom from the end of next week, but of course, we’ll continue to share the latest updates until then.
So that more people can experience this fleeting spectacle, we’ll be opening a little earlier and closing later from Saturday 16 May to Sunday 7 June.
If you’re planning to visit during this time, we strongly recommend booking in advance. Tickets are now available via our website.
Find out more and book your tickets here: https://www.nationaltrust.org.uk/visit/wales/bodnant-garden/laburnum-arch-at-bodnant-garden